Hafan
Diben y wefan hon yw cefnogi anghenion datblygu’r bobl sy'n gweithio yn y maes camddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
Mae'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gyrsiau hyfforddi a chymwysterau, ynghyd â chanllawiau a phecynnau cymorth ar gyfer gweithredu'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol perthnasol gan gynnwys y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffuriau ac Alcohol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn credu bod datblygu gweithlu cymwys yn y maes camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys gweithwyr generig a gweithwyr arbenigol, yn hanfodol er mwyn sicrhau gwasanaethau o safon uchel.
